British: GoMushroom Welsh: GoMushroom
 
 

Disgwyl Antur

Campervan moethus i’w llogi. Taith wyllt drwy harddwch Eryri.

Ystafell gyda golygfa a rhyddid i grwydro.
Beth am fyw fel hyn… GoMushroom!

LLOGI CYFLYM A HAWDD

Mae ein campervans VW California yn hardd ac glan. Maen nhw mor hawdd eu gyrru â char teulu mawr ond maen nhw’n llawn steil ac yn edrych yn wych. Mae digonedd o le ynddyn nhw ac mae’r tu mewn wedi’i gynllunio’n bwrpasol. Does yr un cerbyd gwell i deithio ynddo.

Dyma ddechrau eich antur. Chi sy’n dewis lle i fynd.

Archebwch Nawr…

STEIL A FFITIADAU MANYLEB UCHEL

Yn cyd fynd ag ansawdd adeiladu heb ei ail mae steil a cheinder. Mae gan y VW California ocean popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich antur. Mae’r hanfodion yn cynnwys sinc dur gwrthstaen, oergell a hob nwy, tra bod radio DAB gyda Bluetooth a gwresogydd yn ychwanegu ychydig bach o foethusrwydd.

CYSGWCH YN GYFFORDDUS

Mae’r cynllun dylunio clyfar a’r to sy’n codi sy’n nodweddiadol o VW yn sicrhau y gall hyd at bedwar o bobl gysgu’n gyfforddus mewn campervan gymharol fach.

BYDDWCH YN BAROD I FYND AR DAITH AR HYD Y FFYRDD DRWY DIRWEDD HYNAFOL, EPIG.

Ardal sy’n llawn o’r math o olygfeydd sy’n rhoi hwb i’ch ysbryd ac yn llonni’r enaid. Lle mae’n hawdd byw a’r croeso’n gynnes. Chewch chi unman tebyg i Ogledd Cymru.

Eryri

Paratowch i fynd ar daith ffordd drwy dirwedd hynafol, epig. Ardal sy’n llawn golygfeydd sy’n rhoi hwb i’ch ysbryd ac yn llonni’r enaid. Lle mae’n hawdd byw a’r croeso’n gynnes. Chewch chi unman tebyg i Ogledd Cymru.

Ardal a dewiswyd drwy bleidlais fel un o bum rhanbarth gorau’r byd i grwydro ynddo gan Lonely Planet. Dyma ardal lle mae pob taith yn antur. Tir lle mae cymylau eang yn edrych i lawr ar lynnoedd perffaith. Lle mae mynyddoedd mawreddog yn ymestyn tuag at arfordir euraidd. 


Mae Gogledd Cymru yn adnabyddus am ei gopaon, ond dim ond rhan o’r stori yw Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Pen Llŷn ac Ynys Môn yn gartref i ffermdir o’r ansawdd gorau a thraethau a morluniau harddaf y DU.

Ysbrydoliaeth

Tybed lle gallai eich campervan fynd â chi? Hoffech chi gael ysbrydoliaeth i’ch helpu i gynllunio’ch taith?

O draethau cyfrinachol hudol i’n ffyrdd trawiadol drwy’r mynyddoedd, rydyn ni’n cyflwyno rhai o’r llwybrau gorau – ond nid o reidrwydd y rhai mwyaf adnabyddus – trwy’r rhanbarth hwn. O lecynnau cudd heddychlon i rai o anturiaethau mwyaf cyffrous y wlad, byddwn yn dangos i chi ble i ddod o hyd i’r gorau.

Llwybr Antur

Mae’r llwybr hwn yn ymlwybro drwy rai o dirweddau a golygfeydd mwyaf godidog Eryri, gan fynd heibio parciau antur gwych fel gwifrau gwib a thonnau mewndirol.

Rydyn ni wedi cynnwys rhai llefydd trawiadol y gŵyr neb bron amdanyn nhw, perffaith os ydych chi’n hoffi’r syniad o wersylla yn y gwyllt o gysur eich campervan. Ac mae’n sicr yn werth dod â’ch beiciau ar y daith: bydd eich llwybr yn mynd â chi ar hyd llwybrau hardd drwy goedwigoedd a chanolfannau beicio mynydd.

Byddwch yn teithio trwy Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, felly mae syllu ar y sêr yn odidog ac yn orfodol. Ddydd neu nos, gallwch ddisgwyl gweld rhai o’r golygfeydd mwyaf ysbrydoledig ar y blaned.

Llwybr Mynydd

Bydd ein llwybr mynydd yn eich tywys drwy rai o’r tirweddau mwyaf cyffrous y wlad, gyda golygfeydd godidog ar ei hyd.

Ar hyd y ffordd, byddwch yn gweld copa anhygoel Yr Wyddfa, yn ogystal â’r Rhinogydd a’r Carneddau — sy’n llai adnabyddus — ond yr un mor brydferth. Paciwch eich esgidiau cerdded a’ch beiciau i ddarganfod llynnoedd, rhaeadrau a pharciau coedwig dilychwin.

Byddwch yn teithio drwy bentrefi sy’n llawn cymeriad, straeon gwych a threftadaeth. A bydd ein llwybr yn mynd â chi i guddfannau gwersylla gwych ar gyfer yr hyn a allai fod yn un o’r nosweithiau gorau o gwsg y cewch chi’r flwyddyn hon.

Llwybr y Traethau

Mae’n rhaid i’r mynyddoedd ddod i ben yn rhywle, ac yma yn y gogledd maen nhw’n ymestyn tuag at y môr. Mae llwybr y traethau’n ymdroelli drwy rai o’n perlau arfordirol harddaf. 

O dwyni tywodlyd gwyllt Harlech i gyrchfan Fictoraidd draddodiadol Llandudno, mae arfordir Gogledd Cymru yn cynnwys cyfuniad o bob math o draethau.

Amdanom Ni

Rydyn ni’n llogi campervan moethus ar gyfer pobl sydd wrth eu bodd yn mynd ar deithiau difyr ond sy’n hoffi trafeilio’n gysurus. Lle cewch noson wych o gwsg wrth deithio’r wlad. Teithiau cyfforddus yn yr awyr agored. Rydyn ni wedi ein lleoli ger Harlech.

Manylion Penodedig

SUT MAE PETHAU’N GWEITHIO

SUT YDW I’N ARCHEBU?

Pan fyddwch yn barod ar gyfer llogi eich campervan, defnyddiwch y calendr isod i wirio prisiau ac archebu.

A YW YSWIRIANT FAN WEDI’I GYNNWYS?

Oes, mae gan y Campervan yswiriant cynhwysfawr llawn ar gyfer y gyrrwr a enwir. Mae bond diogelwch o £500 (sy’n cyfateb i dâl-dros-ben yr yswiriant) yn daladwy gyda’ch balans. Byddwn yn anfon e-bost yn ôl atoch i gadarnhau eich archeb a gofyn am luniau o’ch trwydded(au) yrru a bil cyfleustodau diweddar.

FAINT OED SYDD ANGEN I MI FOD?

I yrru’r Campervan rhaid i westeion fod rhwng 23 a 75 mlwydd oed, heb fod â mwy na 2 mân euogfarnau moduro (6 phwynt) a heb gael fwy nag 1 damwain a oedd yn fai arnyn nhw yn ystod y 3 blynedd diwethaf.

BETH I’W WNEUD AR DDIWRNOD CYNTAF Y LLOGI?

Gofynnwn i’n gwesteion ddod i gasglu’r Campervan o’n fferm yma ger Harlech (LL44 2EA) rhwng 4pm a 6pm. Mae digon o leoedd parcio i westeion adael eu cerbyd eu hunain pan fyddant i ffwrdd ar wyliau yn y Campervan.

BETH DDYLWN I EI WNEUD AR Y DIWRNOD DYCHWELYD?

Byddwn yn gofyn i chi ddychwelyd y Campervan i’n fferm gyda thanc llawn o diesel rhwng 9am a 10am ar eich diwrnod olaf.

BETH SYDD YN Y CAMPERVAN?

Beth sydd wedi’i gynnwys:

BETH DDYLWN I DDOD GYDA MI?

Bydd angen i chi ddod â:

Argaeledd

Your widget will appear here.
This site uses cookies.
ConfigureHide Options
 
Read our privacy policy

This site uses cookies for marketing, personalisation, and analysis purposes. You can opt out of this at any time or view our full privacy policy for more information.